Yn ddiweddar, cynhaliwyd cynhadledd yn canolbwyntio ar fonitro newid hinsawdd ar gyfer cymunedau arfordirol lleol gan y prosiect STREAM
(Technolegau Synhwyrydd ar gyfer Monitro Amgylcheddol Dyfrol o Bell) yn Waterford.

Ariennir STREAM yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru gyda €4.3 miliwn dros bum mlynedd. Nod STREAM yw asesu effeithiau newid hinsawdd i sefydlu cynlluniau rheoli lleol a sicrhau dyfodol cynaliadwy i ranbarthau arfordirol.

PDF Report